Rhif y ddeiseb: P-06-1220

Teitl y ddeiseb: Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd, Addysg ac Ymwybyddiaeth Menywod


Geiriad y ddeiseb:

Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer gofal sylfaenol ac eilaidd sy'n ymwneud â materion iechyd menywod, yn ogystal ag ymchwil, addysg ac ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Mae’r materion hyn yn cynnwys:                                       

Materion amenedigol, anafiadau yn ystod genedigaeth, cwymp y groth, ffibroidau, endometriosau, materion cysylltiedig â menopos, materion cysylltiedig â mislif, a'r effaith ar iechyd meddwl sy'n cyd-fynd â'r materion hyn.

Meysydd a allai elwa (enghreifftiau, ymhlith eraill): Bydwreigiaeth, Meddygon Teulu, Gynaecoleg, Ffisiotherapi Iechyd Menywod, Gwasanaethau iechyd meddwl (e.e. cwnsela).

 

 


1.        Y cefndir

Yn 2018, cynhaliodd Chwarae Teg adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar y pryd. O ran iechyd menywod, mae’r Map trywydd ar gyfer Cymru, a luniwyd fel rhan o'r adolygiad yn nodi:

Er bod menywod yn byw’n hirach, wynebant fwy o faterion iechyd drwy gydol eu hoes ac yn aml ceir diffyg dealltwriaeth am y materion iechyd penodol sy’n digwydd i fenywod a merched. Mater yw hwn sy’n effeithio ar fenywod ym mhob cyfnod o’u hoes a gall effeithio’n benodol ar eu gallu i gymryd rhan yn llawn mewn addysg, hyfforddiant, a chyflogaeth, ac effeithio’n negyddol ar eu lles cyffredinol.

Canfu’r adolygiad bod mynediad at wasanaethau arbenigol fel bydwreigiaeth, erthyliad, camesgoriad, a gwasanaethau gynaecolegol eraill yn bryder sylweddol ymhlith rhanddeiliaid.

Ar ôl yr adolygiad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru  gynllun gweithredu ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau traws-bortffolio ym mis Mawrth 2020. Roedd hwn yn cynnwys gweithredoedd yn ymwneud â:

§    urddas mislif;

§    clinigau colli babi yn ystod beichiogrwydd;

§    i ba raddau y mae byrddau iechyd yn cydymffurfio â chanllawiau NICE ar gamesgor a beichiogrwydd ectopig;

§    gweithredu'r weledigaeth bum mlynedd ar gyfer gofal mamolaeth yng Nghymru 2019-2024.

Amlygodd nifer o’r ymatebwyr i ymgynghoriad diweddar y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd y diffyg cynllun iechyd penodol yng Nghymru ar gyfer ‘menywod a merched’.   Galwodd rhanddeiliaid am gefnogaeth y Pwyllgor i roi blaenoriaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd menywod ar agenda Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ffocws ar fynediad at ofal iechyd a chanlyniadau iechyd, a chymryd agwedd cwrs bywyd at iechyd menywod sy'n ymestyn y tu hwnt i'r ffocws traddodiadol ar ofal mamolaeth. Ymhlith y materion penodol a amlygwyd mae endometriosis, y menopos, iechyd meddwl amenedigol, atal cenhedlu, erthyliad, cefnogaeth o ran camesgoriad, ffrwythlondeb a sgrinio ceg y groth.

Beth sy’n digwydd mewn rhannau eraill o’r DU

Yr Alban yw'r wlad gyntaf yn y DU i gael Cynllun Iechyd Menywod. Nod y Cynllun, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2021, yw codi ymwybyddiaeth o iechyd menywod, gwella mynediad at ofal iechyd, a lleihau anghydraddoldebau o ran canlyniadau iechyd i fenywod a genethod, ar gyfer cyflyrau rhyw-benodol ac o ran iechyd cyffredinol menywod.

Yn gynharach eleni, bu Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar Strategaeth Iechyd Menywodar gyfer Lloegr. Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd.

2.     Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r Pwyllgor Deisebau (16 Tachwedd 2021) yn nodi:

Mae gwella gwasanaethau iechyd i fenywod wedi parhau’n flaenoriaeth i Lywodraethau olynol yng Nghymru. Mae’n hanfodol bod ein gwasanaethau iechyd yn cynnig cyngor a gofal i ferched a menywod yn ystod eu bywydau ac yn cyflawni model o ofal sy’n darparu cymorth i alluogi menywod i aros yn iach drwy gydol eu bywydau.

Mae'n tynnu sylw at rôl y Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod (WHIG)a gyfarwyddwyd gan weinidogion i fynd i'r afael â materion iechyd menywod. Sefydlwyd y Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod yn wreiddiol ym mis Mawrth 2018 i ystyried adroddiad ar ddefnyddio tâp a rhwyll synthetig ar gyfer anymataliaeth straen wrinol a phrolaps organau’r pelfis. Yn dilyn hynny, ehangwyd cylch gwaith y Grŵp i gynnwys ystyried dau adroddiad arall, sef adroddiadau ar endometriosis ac anymataliaeth ysgarthol. Dywed Llywodraeth Cymru:

Ers ei sefydlu, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1 miliwn y flwyddyn i GGIM. Mae’r arian hwn wedi cael ei ddefnyddio i gyllido rheolwr y rhaglen a sefydlu rhwydwaith o gydlynwyr iechyd y pelfis a llesiant ym mhob bwrdd iechyd. Yn fwy diweddar, mae wedi caniatáu i nyrsys endometriosis arbenigol gael eu recriwtio ym mhob bwrdd iechyd yn ogystal ag ystod o weithgareddau eraill

Mae ymateb Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys cyfeiriad at ei gwaith o ran urddas mislif, y menopos, ac iechyd meddwl amenedigol.

Mae'n nodi effaith y pandemig COVID-19 ar ddarpariaeth gynaecoleg (ac yn gyffredinol ar draws y GIG), ac yn disgrifio 'tarfu mawr' ar wasanaethau ac amseroedd aros sylweddol hwy i lawer o fenywod. Mae'n cyfeirio at ei chynllun adfer ar gyfer y GIG yng Nghymru(a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021), ac mae'n nodi, er na chyfeirir yn benodol at wasanaethau gynaecolegol, mae disgwyl y bydd yr holl wasanaethau iechyd yn adlewyrchu'r newidiadau a nodir yn y cynllun. 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.